Beth yw pwysigrwydd gwneud Pwer Atwrnai Parhaol?
Mae Pwer Atwrnai Parhaol yn ddogfen cyfreithiol sy’n awdurdodi rhywun rydych yn ymddiried ynddynt i wneud penderfyniadau ar eich rhan ac ymdrin a’ch materion. Bydd y pwerau hyn yn dod i rym pan nad ydych bellach yn gallu gwneud penderfyniadau eich hunan (h.y. wedi colli ‘galluedd meddyliol’), neu ar amser o’ch dewis chi.
Mae dau fath gwahanol o Bwer Atwrnai Parhaol:
- Pwer Atwrnai Parhaol Eiddo a Materion Ariannol – mae’r math hwn yn galluogi’r unigolyn/ion rydych wedi eu hapwyntio i ymdrin a rheoli eich materion ariannol e.e. talu eich biliau, diogelu eich cartref a’ch eiddo, ac arwyddo cytundebau sy’n ymwneud a’ch eiddo a materion ariannol ar eich rhan.
- Pwer Atwrnai Parhaol Iechyd a Llesiant – mae’r math hwn yn galluogi’r unigolyn/ion rydych wedi apwyntio i wneud penderfyniadau sy’n ymwneud a’ch iechyd e.e. rhoi caniatad meddygol, a’ch llesiant e.e. gwneud penderfyniadau yn eich budd gorau yn ymwneud a’ch gofal.
Mae sawl rheswm pam y byddech angen rhywun i wneud penderfyniad ar eich rhan:
- Mewn sefyllfa dros dro e.e. os ydych yn yr ysbyty neu ar wyliau hir ac angen rhywun i drefnu eich materion ariannol;
- Mewn sefyllfaoedd hir dymor be rydych yn colli eich galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau dros eich hunain e.e. drwy ddatblygiad cyflwr dementia, salwch parhaol, damwain difrifol sy’n effeithio’ch gallu, neu gyflyrau heneiddio.
Yn aml, mae camddealltwriaeth ymysg teuluoedd ynglyn a’u hawliau i weithredu ar ran aelod teulu sydd bellach ddim yn gallu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain neu ymdrin a’u materion ariannol. Yn wahanol i’r hyn efallai fyddai’n naturiol ddisgwyliedig, nid oes gan eich plant nag unrhyw aelod arall o’r teulu hawl i weithredu ar eich rhan, oni bai eu bod wedi eu hawdurdodi’n ffurfiol. Mae Pwerau Atwrnai Parhaol yn un ffordd o awdurdodi unigolyn/ion, ac yn sicrhau mai’r unigolyn/ion o’ch dewis chi sy’n cael eu hawdurdodi yn unig.
Goblygiadau peidio gwneud Pwerau Atwrnai Parhaol
Pe byddai’r amser yn dod yn y dyfodol ble rydych wedi colli eich galluedd meddyliol a heb apwyntio Atwrnai i gynnal eich materion, byddai’n rhaid i’r Llys Gwarchod apwyntio Dirprwy i wneud penderfyniadau ar eich rhan.
Mae hyn yn gallu bod yn broses hir a chostus, ac nid oes unrhyw sicrwydd mai’r unigolyn/ion o’ch dewis chi fyddai’r Llys yn eu apwyntio. Wrth gwrs, mewn amgylchiadau fel hyn mae My Local Solictor Ltd yn brofiadol dros ben yn ymdrin a materion y Llys Gwarchod, ac yn hapus iawn i gynorthwyo. Fodd bynnag, byddem yn eich cynghori’n gryf i beidio aros nes mae cais o’r fath i’r Llys Gwarchod yn dod yn angenrheidiol.
Rydym yn hoffi cymharu Pwerau Atwrnai i bolisi yswiriant – yn gobeithio na fyddent yn ddefnydiol, ond yno yn barod i’w defnyddio pe byddai eu hangen. Mae’r gost hefyd yn isel gyda un ffi yn unig yn daladwy fesul Pwer sy’n cael eu cofrestru – arian sydd werth ei wario yn ein tyb ni!