Mae tueddiad yn ein mysg i feddwl am wneud ewyllys fel rhywbeth i’w ystyried pan rydym yn hŷn, ar ôl i’r plant dyfu fyny efallai, neu hyd yn oed ddim o gwbl – wedi’r cyfan, mi fydd popeth yn mynd i’ch partner a phlant petai’r gwaethaf yn digwydd siawns?! Wel, yn anffodus nid yw hyn yn gwbl gywir. Hyd yn oed os rydych wedi priodi neu mewn parterniaeth sifil gyda’ch partner, mae materion hynod bwysig sydd dal angen eu cyfarch mewn ewyllys, a bwriad yr erthygl yma yw i daro ychydig o oleuni ar a chyfarch rhai o’r camsyniadau cyffredin yma a chodi eich ymywbyddiaeth chi fel rhieni.
Pam fod rhieni angen ewyllys?
- Os ydych yn marw heb ewyllys, mae cyfreithiau cymhleth sef rheolau diffyg ewyllys yn dod i rym. Mae’r rheolau hyn wedi eu gwneud ar gyfer sefyllfaoedd ble nad oes ewyllys yn bodoli yn dilyn marwolaeth person, ac yn anaml iawn maent yn adlewyrchu dymuniadau penodol yr unigolyn.
- Nid yw gwneud ewyllys i gyd am faterion ariannol: yn bwysicach na hynnu, mae gwneud ewyllys yn caniatau i chi apwyntio gwarcheidwad ar gyfer eich plant.
- Gall peidio gwneud ewyllys arwain at ansicrwydd a gofidiau ariannol i’ch teulu a dibynyddion. Er enghraifft, os nad ydych wedi priodi gyda’ch partner, yna ni fyddai eich partner yn etifeddu nac ychwaith gyda’r hawl i gael mynediad i’ch ystad, hyd yn oed os oes gennych blant.
Felly, gwneud ewyllys yw’r ffordd orau i sicrhau fod eich anwyliaid yn cael eu gofalu amdanynt a bod darpariaeth ar eu cyfer yn unol a’ch dymuniadau CHI.
Ysgrifennu’r ewyllys gorau ar gyfer eich plant – beth i’w ystyried mewn 5 cam syml:
- Apwyntio gwarcheidwad ar gyfer eich plant:
Gwarcheidwad cyfreithiol yw person sy’n gofalu am eich plant pe byddech chi a rhiant arall eich plentyn yn marw. Mae’n holl bwysig ystyried gwarcheidiaeth cyfreithiol. Os nad oes cynlluniau clir mewn ewyllys ddilys, ac mae’r ddau riant wedi marw, yna byddai’n rhaid i’r awdurdod lleol neu’r llys wneud penderfyniad ynglyn a phwy ddylai ofalu am eich plant. Er fod teulu agosaf yn arferol yn cael eu ffafrio, nid yw hyn yn broses awtomatig. Hefyd, efallai na fyddech eisiau i’ch teulu agosaf ofalu am eich plant beth bynnag.
PWYSIG: Nid yw dewis rhiant bedydd ar gyfer eich plentyn yr un peth a dewis gwarcheidwad cyfreithiol. Nid oes gan rieni bedydd unrhyw hawliau cyfreithiol. Mae gwarcheidiaeth cyfreithiol yn dod i ben unwaith bydd y plentyn yn 18 mlwydd oed.
- Ystyried materion ariannol eich plentyn / plant
Oni bai bod eich ewyllys yn nodi’n wahanol, bydd eich plentyn / plant yn cael mynediad i’w hasedau pan yn 18 mlwydd oed. Mae llawer o’n cleientau yn credu fod 18 oed ychydig rhy ifanc i dderbyn cyfrifoldeb llawn dros eu hasedau / materion ariannol. Gydag ewyllys yn ei le, gallwch osod oedran etifeddu uwch e.e. 21 oed neu hyn.
NODYN: Hyd nes bydd y plentyn / plant yn 18 oed, bydd yr asedau yn cael eu dal mewn ymddiriedolaeth (“trust”), ac er na fydd ganddynt hawl i’w rheoli’n bersonol, gallent gael budd o’r etifeddiaeth o dan ddisgresiwn yr ymddiriedolwr/wyr (“trustees”) y byddech hefyd yn eu apwyntio yn eich ewyllys (gweler isod).
- Apwyntio ymddiriedolwr/wyr ar gyfer etifeddiaeth eich plentyn/plant.
Os ydych yn marw cyn i’ch plentyn / plant gyrraedd yr oed gallent etifeddu, yna bydd angen i’r asedau gael eu dal o fewn ymddiriedolaeth (“trust”).
Er mwyn rheoli’r ymddiriedolaeth, bydd angen i chi apwyntio ymddiriedolwyr penodol i reoli materion ariannol eich plentyn / plant.
Wrth gael ewyllys mewn lle, gallwch enwebu unigolion penodol a dibynadwy fel eich ymddiriedolwyr, heb orfod gobeithio bydd y trefniadau safonol o dan y rheolau diffyg ewyllys yn ddigonol.
- Adolygu eich buddiolwyr (“beneficiaries”) o ymddiriedolaethau, pensiynau neu yswiriant
Os oes gennych bolisi yswiriant bywyd, cynllun peniswn neu unrhyw asedau eraill wedi eu dal mewn ymddiriedolaeth, ni fydd rhain yn cael eu pasio i lawr o fewn eich ewyllys,
Os ydych eisiau i’ch plant etifeddu’r cynhyrchion ariannol rhain, bydd angen i chi gysylltu â’r holl ddarparwyr ac enwebu eich plant fel eich buddiolwyr.
- Darparu ar gyfer eich llys-blant neu blant maeth.
Os oes gennych lysblant neu blant maeth, ni fyddent yn etifeddu’n awtomatig o’ch ystad oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn eich ewyllys.
Adolygu eich ewyllys
Rydym yn cynghori adolygu eich ewyllys oleiaf pob pum mlynedd. Gall hyn eich galluogi i gymryd cam yn ol ac adlewyrchu os yw’r unigolion rydych wedi eu henwebu i ofalu am eich plant yn parhau i fod yn addas, ac os yw eich ewyllys yn parhau i adlewyrchu eich amgychiadau teuluol. Mae’n hawdd iawn i newid eich ewyllys unrhyw bryd mae’r angen yn codi, ac yn My Local Solicitor Ltd rydym yn ymfalchio mewn adeiladu perthynas gyfeillgar a chryf gyda’n cleientau i’w cynorthwyo a chynghori drwy eu teithiau bywyd.
Rhaid cofio hefyd fod pethau’n gallu newid yn sydyn iawn, ac felly mae’n hynod o bwysig sicrhau fod eich ewyllys yn gyfredol. Er enghraifft, os ydych yn priodi, neu yn ymrwyno i bartneriaeth sifil, bydd unrhyw ewyllys yn cael ei ddirymu yn awtomatig.
Mae’r erthygl hwn er gwybodaeth yn unig ac nid yw’n gyngor cyfreithiol. I drefnu ymgynghoriad yn rhad ac am ddim gyda’ch cyfreithiwr lleol, cysylltwch â ni ar 01766 884024 neu hello@my-local-solicitor.com