Croeso i My Local Solicitor (MLS), eich partner dibynadwy mewn materion cyfreithiol, sy’n ymroddedig i ddarparu gwasanaeth cyfreithiol arbenigol i’n cleientiaid. Rydym yn frwdfrydig yn ein menter i’ch cynorthwyo a’ch cynghori drwy gymhlethdodau’r gyfraith, mewn modd syml ac eglur.
Mae ein cyfarwyddwyr Marta Williamson ac Erin Wyn, yn raddedigion y gyfraith o Brifysgol Bangor yng Ngogledd Cymru, ac yn parhau gyda chysylltiadau cryf yn yr ardal. Wedi byw a gweithio am dros ddeng mlynedd fel cyfreithwyr yn Wrecsam ac yng Ngwynedd, mae eu profiadau proffesiynol a phersonol wedi eu galluogi i ffocysu ac arbenigo yn y gyfraith yng Nghymru, yn ogystal a deall yr heriau unigryw sy’n gwynebu eu cleientiaid Cymraeg.
Rydym yn ymfalchio yn ein tim o gyfreithwyr sy’n meddu ar ddealltwriaeth ddwfn o’r gyfraith yng Nghymru, ynghyd a sawl aelod sy’n rhugl yn y Gymraeg. Mae hyn yn ein galluogi i greu amgylchedd cynnes a chroesawgar, gan sicrhau eich bod yn teimlo’n gyfforddus wrth drafod eich materion cyfreithiol yn eich iaith ddewisiol.
Mae MLS yn cynnig gwasanaethau cyfreithiol arbenigol mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
Ewyllysiau a Phrofiant
Eich cynorthwyo i lunio ewyllysiau, sefydlu ymddiriedolaethau, ac ymdrin a materion profiant ar eich rhan, gan roi tawelwch meddwl i chi ar gyfer y dyfodol.
Y Llys Gwarchod
- Pwerau Atwrnai Arhosol (Eiddo a Materion Ariannol / Iechyd a Llesiant)
- Gorchmynion Dirprwyo (Eiddo a Materion Ariannol / Iechyd a Llesiant)
- Cynrychiolaeth a chyngor mewn achosion Llys Gwarchod
Cyfraith Eiddo:
- Landlord a Thenant Preswyl
- Cytundebau Tenantiaeth
- Anghydfodau Tir
Cyfraith Cyflogaeth:
- Contractau Cyflogaeth
- Anghydfodau Gwaith
- Honiadau Gwahaniaethu
- Polisiau a Gweithdrefnau Staff
- Ailstrwythuro a Gormodedd
- Achwyn a Disgyblu
- Tanberfformio a Gwaeledd
- TUPE
- Cytundebau Terfynnu a Setliadau
- Hawliad Tribiwnlys Cyflogaeth
Llywodraeth Leol
Mae gennym gyfreithwyr gydag arbenigedd a phrofiad eang mewn meysydd penodol o gyfraith llywodraeth leol yng Ngymru, gan gynnwys:
- Gofal Cymdeithasol Oedolion
- Addysg
- Cyflogaeth
- Gwasanaethau Swyddog Ymchwilio Annibynnol (Cwynion Llywodraeth Leol)
- Adennill Dyledion
Cysylltwch â ni am wasanaeth proffesiynol, brwdfrydig, ac arbenigedd o’r ansawdd uchaf. Mae ein tim o gyfreithwyr wrth law i’ch cynorthwyo a chynghori.
Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion
Mae pwysau cynyddol ar adrannau gwasanaethau cymdeithasol oedolion i sicrhau eu bod yn cwrdd a’u dyletswyddau statudol o fewn cyllideb cyfyngedig iawn. Mae cael cyngor cyfreithiol arbenigol yn hollbwysig er mwyn darparu’r gwasanaethau statudol yma mewn modd effeithlon, sy’n gyfreithol gywir ac yn gost-effeithol.
Cyfraith Addysg
O hawliau a dyletswyddau cyfreithiol yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol, hawliadau tribiwnlys, apeliadau mynediad a gwaharddiad ysgolion, cyrff llywodraethol, i’r ymholiadau dydd i ddydd gan bennaethiaid ysgolion, mae cyfraith addysg yn faes eang sydd yn aml yn gallu profi’n heriol heb gyngor arbenigol clir ac amserol. Yn y maes cyfreithiol datblygiadol hwn, mae Awdurdodau Addysg Lleol angen sicrhau fod eu prosesau, polisiau a penderfyniadau yn cwrdd a’u dyletswyddau statudol.
Cyfraith Cyflogaeth
Mae Awdurdodau Lleol yn gyflogwyr ar raddfa eang, ac mae creu perthynas gyflogaeth sy’n llesol i’r ddwy ochr yn hanfodol i sicrhau amgylchedd gwaith dda sy’n hybu iechyd, lles a diogelwch staff yn unol a’r gyfraith. Yn anochel bydd heriau ac anghyfodau yn codi sy’n gofyn am wybodaeth a dealltwriaeth manwl o’r gyfraith. Mae gan MLS dîm arbenigol o gyfreithwyr, gyda blynyddoedd o brofiad yn gweithio mewn awdurdodau lleol sydd wrth law i ddarparu cyngor a chefnogaeth cyfreithiol.
Gwasanaeth Swyddog Ymchwilio Annibynnol (Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion – Cymru’n Unig)
Mae gan Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol ddyletswydd statudol i sicrhau fod cwynion yn cael eu hymchwilio gan swyddog annibynnol o dan “cam 2” o’r weithdrefn gwynion. Yn aml mae’n hanfodol fod gan y swyddog ymchwilio ddealltwriaeth a gwybodaeth fanwl am y pwnc dan sylw, ynghyd a phrofiad ac ymwybyddiaeth o brosesau a gweithdrefnau awdurdodau lleol, er mwyn ymchwilio’n drylwyr, yn deg, a chynnig atebion addas. Gall MLS hefyd ddarparu’r gwasanaeth yma drwy gyfrwng y Gymraeg.
Adennill Dyledion
Wrth i gyllidebau dynhau a phwysau gynyddu o fewn llywodraeth leol, mae’r angen a phwysigrwydd o adennill arian sy’n ddyledus i gynghorau lleol yn fwy o flaenoriaeth nag erioed. Gall y broses yma fod yn heriol iawn, ac mae dealltwriaeth o’r gyfraith mewn mwy nag un maes yn angenrheidiol i oresgyn hyn e.e. wrth adennill dyledion ffioedd cartref gofal. Gall MLS gynnig cyngor a gwasanaeth cyfreithiol arbenigol i gefnogi awdurdodau lleol gyda’r materion yma.
Pecynnau Cyngor a Chefnogaeth Cyfreithiol
Gall MLS gynnig Pecynnau Cyngor a Chefnogaeth Cyfreithiol pwrpasol i gynghorau lleol sydd wedi eu teilwra i anghenion penodol ein cleientau. Boed fod yr angen ar gyfer cefnogaeth gydag achos penodol, prosiect, ymholiadau cyfreithiol cyffredinol neu i ysgafnhau llwyth gwaith e.e. oherwydd absennoldeb staff dros dro, gall MLS ddarparu gwasanaeth cyfreithiol hyblyg, ar gyfraddau yr awr cystadleuol ar gyfer awdurdodau lleol. Am wybodaeth / drafodaeth pellach, cysylltwch â ni heddiw: hello@my-local-solicitor.com.
Adult Social Care
There are growing pressures on Adult Social Care Departments to ensure that they meet their statutory duties with a very limited budget. Having specialist legal advice is a crucial part of delivering these statutory services in a legally compliant, cost-effective and efficient manner.
Education Law
From the legal rights and duties relating to additional learning needs, tribunal claims, school admission and exclusion appeals, governing bodies, to the day to day legal queries from Head Teachers, Education Law is certainly a wide-ranging area which can prove to be challenging without clear specialist and timely advice. In this growing area of law, Local Education Authorities need to ensure that their processes, policies and decisions meet their statutory duties.
Employment Law
Local Authorities are large-scale employers, and creating a mutually beneficial employment relationship is essential to ensure a good working environment, which promotes the health, wellbeing and safety of employees in accordance with the law. There will also be challenges and disputes arising which require detailed knowledge of the law. MLS has an excellent team of specialist employment solicitors, with years of experience working in local government who are able to provide legal advice and support.
Independent Investigating Officer Services (Adult Social Care – Wales only)
Social Services Departments have a statutory duty to ensure that complaints are investigated by an independent officer when stage 2 of the complaints procedure is invoked. Often it is vital that the investigating officer has detailed legal knowledge of the subject matter, as well as experience and familiarity with local authority processes and procedures in order investigate fully, fairly, and recommend appropriate solutions. MLS can also provide this service through the medium of Welsh.
Debt Recovery
As budgets continue to tighten and pressures increase within local government, the importance of recovering money owed to the local authority is more crucial than ever. The process can be challenging and an understanding of the law in various areas is often required to overcome this e.g. when recovering debts for care home fees. MLS can offer expert legal advice and services to assist local authorities with these matters.
Legal Advice and Support Packages
MLS offers bespoke Legal Advice and Support Packages to local authorities which are tailored to our client’s specific needs. Whether assistance is required with a specific case, project, general legal queries or easing workloads due to e.g. temporary staff absences, MLS can provide flexible legal services, at competitive local authority hourly rates. For further information and / or discussion, contact us today: hello@my-local-solicitor.com.