Does neb yn hoffi meddwl am yr hyn a fydd yn digwydd wedi iddynt farw. Yn anffodus, mewn gwirionedd mae peidio delio gydag ef yn gallu bod yn broblemus iawn.
O ran paratoi Ewyllys mae gennych dair opsiwn:
Does neb yn hoffi meddwl am yr hyn a fydd yn digwydd wedi iddynt farw. Yn anffodus, mewn gwirionedd mae peidio delio gydag ef yn gallu bod yn broblemus iawn.
O ran paratoi Ewyllys mae gennych dair opsiwn:
Gall marw heb wneud Ewyllys dilys arwain at broblemau ac efallai na fydd y rhai sydd anwylaf i chi yn elwa yn y ffordd yr oeddech yn ei obeithio.
Agwedd bwysig arall mewn Ewyllys yw ei fod yn penodi person (Cynrychiolydd Personol) i reoli eich ‘stâd ac mae’r penodiad hwnw yn effeithiol o’r eiliad y byddwch farw; heb Ewyllys dim ond y Llÿs a all fod yn Gynrychiolydd Personol. Mae Ewyllys felly yn ddogfen bwysig iawn.
Tra bod hyn yn opsiwn gwell na pheidio gwneud Ewyllys o gwbwl, gall greu problemau mawr.
Os bydd Ewyllys wedi ei pharatoi gartref yn methu dilyn ffurfioldebau cyfreithiol neu os nad yw wedi ei pharatoi neu ei gweithredu’n gywir neu os nad yw hi’n cyd-fynd a newidiadau diweddar y y Gyfraith, gall gael yr un canlyniad a pheidio a gwneud Ewyllys o gwbwl.
Y gwir yw fod yna lawer o ystyriaethau a phroblemau posib wrth wneud Ewyllys; goblygiadau trêth yn ddim ond un ohonynt.
Dyma’r ffordd orau. Mae yna nifer o asientaethau y gallwch eu cyfarwyddo i wneud Ewyllys ar eich rhan. Gwnewch yn siwr fod gan pwy bynneg yr ydych yn eu cyfarwyddo yr arbenigedd angenrheidiol ac eu bod yn gymwys i’ch cynghori ar wahanol elfennau cynllunio ystadau ac yn cadw at gôd ymddygiad proffesiynol.
Yma yn ‘MLS’ rydym i gyd yn gyfreithwyr ac yn gymwys i ddarparu’r cyngor yr ydych ei angen. Mae gennym yr awdurdod i withredu ac rydym yn cael ein rheoleiddio gan Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr ac yn gweithredu yn unol a chôd ymddygiad proffesiynol. Rydym hefyd yn dilyn côd ‘STEP’ ar gyfer paratoi Ewyllysiau yng Nghymru a Lloegr.
Yma yn ‘MLS’ rydym yn cymryd amser i ddeall eich amgylchiadau personol chi gan gynnwys maint eich ‘stâd a chyfansoddiad eich teulu. Yna byddwn yn gofyn sut yr ydych chi eisiau i’ch ‘stâd basio a chynghori ar y ffordd fwyaf effeithiol o wneud hynny gan ystyried unrhyw ffactorau mawr eraill, megis trethiant.
Rydym yn ymroddedig i wneud y broses gyfan deimlo mor ddi-drafferth a phosib. Fe ddown ni atoch chi hyd yn oed! Ar ddiwedd y broses byddwch yn teimlo’n gynhyrchiol ac yn llwyr gyfrifol am reolaeth eich materion ariannol.
Gallwn hefyd drefnu i’ch Ewyllys gael ei chadw’n sâff yn y Gofrestrfa Profiant er mwyn osgoi unrhyw bosibilrwydd o ‘Ewyllys ar goll’. Gellir crynhoi yr hyn y mae ‘MLS’ yn ei gynnig mewn dau air: tawelwch meddwl. Gyda’n cyfraddau cystadleuol nid oes yna unrhyw reswm dros beidio a chael Ewyllys wedi ei pharatoi’n broffesiynol.