
Cytundebau cyd-fyw – canllaw i gleientiaid
Mae’r ddogfen hon yn darparu arweiniad cyffredinol ynglyn a chytundebau cyd-fyw. Mae’n egluro beth yw cytundeb cyd-fyw, pam efallai yr hoffech chi wneud un, a’r mathau o bethau yr hoffech chi eu rhoi ynddo.
Beth yw cytundeb cyd-fyw?
Mae cytundeb cyd-fyw yn ddogfen ysgrifenedig, wedi’i llofnodi o flaen tystion. Yn gyffredinol, bydd yn delio â thri phrif faes:
1. •pwy sy’n berchen ar beth ar adeg y cytundeb, ac ym mha gyfrannau
2. •pa drefniadau ariannol rydych chi wedi penderfynu eu gwneud tra’ch bod chi’n cyd-fyw, a
3. •sut y dylid rhannu eiddo, asedau ac incwm os daw’r berthynas i ben
Pan fydd y gytundeb wedi’i lunio’n iawn, gyda telerau rhesymol, a bod pob un ohonoch wedi cael cyngor cyfreithiol annibynnol ar ei effaith, mae llys yn fwy tebygol o gynnal y cytundeb os bydd anghydfod. Gall hefyd fod yn ddoeth cynnwys darpariaethau ar gyfer digwyddiadau posib yn y dyfodol, ee anghenion unrhyw blant a gaiff eu geni.
Pryd ddylwn i wneud cytundeb cyd-fyw?
Gallwch chi wneud cytundeb cyd-fyw ar unrhyw adeg, os ydych chi ar fin dechrau byw gyda’ch gilydd neu os ydych chi wedi bod yn gwneud hynny ers blynyddoedd lawer. Gall eich cyfreithiwr teulu eich helpu i drafod y cytundeb hwn a gall ei ysgrifennu mewn ffordd y buasai’r llys yn fwy tebygol o’i dderbyn.Efallai y byddwch hefyd yn ceisio cymorth cyfryngwr (mediator) i helpu’r ddau ohonoch siarad am delerau posibl cytundeb cyd-fyw, neu weithio allan beth ddylai ddigwydd gan ddefnyddio cyfraith gydweithredol.
Pam ddylwn i wneud cytundeb cyd-fyw?
Yn wahanol i ysgariad neu ddiddymiad partneriaeth sifil, nid oes rheolau pendant os ydych chi’n gwahanu oddi wrth rhywun yr ydych chi wedi bod yn byw gyda nhw. Nid oes y fath beth â ‘phriodas cyfraith gwlad’. Nid yw byw gyda rhywun am gyfnod penodol o amser yn golygu bod gennych hawl yn awtomatig i gael rhywfaint o gymorth ariannol neu i rannu eu heiddo ar ôl i chi wahanu. Cafwyd cynigion i newid y gyfraith ond mae’r llywodraeth wedi dweud nad yw’n bwriadu gwneud hynny ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu, lle nad yw cwpl wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, gall ymgeisio datrys anghydfodau ynghylch ag eiddo heb gytundeb cyd-fyw fod yn ddrud a hirfaith. Gall cytundeb cyd-fyw da olygu fod meusydd o anghydfod posib ar wahanu yn cael eu lleihau neu eu dileu.
Mae llawer o gyplau hefyd yn gweld bod y broses o wneud cytundeb cyd-fyw yn golygu eu bod yn cael cyfle i feddwl a siarad am sut mae cyd-fyw yn mynd i weithio’n ariannol, sy’n golygu bod dadleuon am arian yn llai tebygol yn nes ymlaen.
Meysydd yr hoffech eu cynnwys mewn cytundeb cyd-fyw
Eich cartref
Mae’n bwysig cofnodi sut yr ydycch yn berchen ar eich cartref, ac a fu unrhyw gytundeb neu addewid ar wahân nad yw’n cael ei adlewyrchu yn y dogfennau cyfreithiol sydd yn bodoli ar hyn o bryd. Pwy sy’n talu’r morgais? Os oes unrhyw bolisïau gwaddol (endowment) neu drefniadau cynilo eraill yn gysylltiedig â morgais, pa gyfraniadau sy’n cael eu gwneud i’r rheini a sut yr ymdrinnir â hwy os byddwch yn gwahanu? Ydych chi’n mynd i yswirio bywydau eich gilydd? Efallai y bydd angen i’ch cyfreithiwr teulu eich cynghori ynghylch goblygiadau trefniadau o ran eich cartref gan mai hwn fel arfer yw’r maes mwyaf cymhleth i bobl sy’n byw gyda’u gilydd.
Arian a thalu biliau
Mae llawer o bobl yn ei chael hi’n gyfleus cael cyfrif banc ar y cyd pan fyddant yn cyd-fyw ond mae angen iddynt benderfynu pa gyfraniadau y maent yn mynd i’w gwneud i’r cyfrif hwnnw. A fydd y cyfraniadau’n gyfartal ac os na, a fyddwch chi’n ystyried bod yr arian yn y cyfrif ar y cyd yn eiddo cyfartal? Ar gyfer beth y defnyddir y cyfrif ar y cyd a phryd y dylid defnyddio’ch cyfrifon personol yn eu lle? Os nad ydych yn defnyddio cyfrif ar y cyd, pwy fydd yn talu pa un o’r biliau cartref ac a fydd hyn yn cael ei ystyried yn gyfraniad cyfatebol i rywbeth arall? Beth am gardiau credyd a dyledion?
Pensiynau
Yn aml yn cael ei anwybyddu, mae pensiynau weithiau’n rhoi cyfle i chi wneud darpariaeth ar gyfer anwyliaid. Efallai yr hoffech, er enghraifft, gytuno ar enwebiadau ar gyfer budd-daliadau marwolaeth mewn gwasanaeth.
Meddiannau personol
Dylech ystyried pwy sy’n berchen a / neu a fydd yn cadw eitemau fel dodrefn a cheir. Efallai y byddai’n werth nodi nawr unrhyw reolau ynghylch perchnogaeth pethau pwysig neu ffordd i ddatrys unrhyw anghytundebau yn eu cylch pe bai chi yn gwahanu, er enghraifft, pob un ohonoch yn dewis yn ei dro o restr o eitemau.
Plant
Er nad yw’n gyfreithiol rwymol, mae’n werth meddwl a ydych chi am ddarparu ar gyfer unrhyw blant sy’n ychwanegol at yr isafswm a ddisgwylir gan y system cynnal plant pe byddech chi’n gwahanu (ee, o ran ffioedd ysgol neu brifysgol), ac i nodi rhai disgwyliadau ynghylch sut y byddai plant yn derbyn gofal pe byddech chi’n byw ar wahân.
Unrhyw beth arall y dylwn ei wybod?
Mae’n bosibly gall y gyfraith newid yn y dyfodol i roi hawliau penodol i gyd-breswylwyr. O dan y cynigion cyfredol, os oes gennych gytundeb ynghylch yr hyn yr ydych am ddigwydd pe baech yn gwahanu, bydd hyn yn cael blaenoriaeth dros unrhyw gynllun newydd a ddaw i mewn, ond gall y sefyllfa newid.Efallai y bydd angen i chi adolygu’r cytundeb os byddwch chi’n symud tŷ, yn cael plant neu os yw eich amgylchiadau’n newid yn sylweddol. Mae’n bwysig sicrhau bod y cytundeb yn cael ei ddiweddaru.Fe ddylech chi hefyd wneud Ewyllys fel y gallwch chi roi eich dymuniadau ar waith os byddwch chi’n marw wrth fyw gyda rhywun. Er ei bod yn bosibl mewn rhai amgylchiadau i gyd-breswylwyr etifeddu, nid oes unrhyw reolau pendant ynglŷn â’r hyn a ddylai ddigwydd felly mae’n bwysig eich bod yn egluro’r hyn yr ydych ei eisiau.